Safle Tref Rhuthun

... yn wreiddiol ar gyfer Cyngor Tref Rhuthun

Arweinydd Newydd Côr Rhuthun

Penodwyd Robat Arwyn yn arweinydd newydd un o gorau gorau Cymru: Côr Rhuthun.

Côr yr Aelwyd ydoedd ar y cychwyn ac yna Côr Ieuenctid Rhuthun gan newid i Gôr Rhuthun rai blynyddoedd yn ôl.

Ymhlith y caneuon mae'r cyfansoddwr enwog wedi'u hysgrifennu y mae: Gwin Beaujolais, Brenin y Sêr a Pedair Oed.

 

Tai Glastir

Mae tipyn o ffraeo wedi codi'n ddiweddar gan i adeiladwyr y tai ar gaeau Glastir ddefnyddio 'Parc Rhuthun' fel enw dros dro a hyd yn oed yr erthyl diweddaraf: 'Glastir Vale'. Mae llawer o'r bobl leol yn gwrthwynebu hyn gan fod sawl 'Parc' arall yma yn Rhuthun.

Carem gynnig: Maes Cynddylan oherwydd cysylltiad y tywysog gyda Rhufoniog, Dogfaeling a Dyffryn Clwyd. Cofiwch fod rhan o'r hen enw i'w weld yn Stryd Dogfael yng nghanol y dref.

Rhai o'r awgrymiadau eraill a gafwyd yw:

Tai Glastir
Llygad y Moelydd
Ffordd Rhys Ifans
Gwernfor
Llety'r Chwaden

Rhy Ddrud

Deallwn mai £160,000 yw pris y tai rhataf a fwriedir eu codi. 'Rhy ddrud o lawer i bobl ifanc!!!' medd un o'r trigolion lleol.

Ond mae nifer o dai a fflatiau ar gael i'w llogi heddiw, yng nghanol y dre, am lawer llai na hyn. Ewch i safle yma er enghraifft.

 

Rhys Ifans

Ymfalchiwn yn yr actor byd-enwog hwn! Un ohonom ni ydy o ac un ohonom ni fydd o! Edrychwn ymlaen i weld ei farddoniaeth yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir ac i glywed The Peth yn diasbedain drwy'r dyffryn. Naw wfft i'r wasg seisnig am geisio ei bardduo. Ymlaen, Rhys!

 

Tai Du a Gwyn Cymru

Yn ôl yr hanesydd Peter Smith (gweler y Gwyddoniadur), 'Tan y 18ed ganrif roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Ty Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...'

Ewch i'r Oriel i weld enghreifftiau diddorol o'r pensaerniaeth Ganoloesol hwn o dref Rhuthun. Ceir peth adeiladau hanesyddol hefyd yn Llangollen.

 

Mae'r wefan yma dros 11 oed bellach!

Crewyd y safle gwe yma yn wreiddiol ar gyfer  Cyngor Tref Rhuthun nôl yn 1996.

Rhuthun fin nos. Ruthin, denbighshire at night

Chwilio am dy, siop, swyddfa neu fflat? Ewch i'r safle yma.

Tŷ Nantclwyd

O'r diwedd! Mae Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre), Rhuthun, Sir Ddinbych, Gogled Cymru wedi agor ei ddrysau derw soled - i'r cyhoedd.

Ewch o'i gwmpas i weld yr ystafelloedd canoloesol - o tua 1450. Neu ymwelwch a: Castell Rhuthun neu Llangollen.

Cewch ymweld a'r Carchar (Carchar Rhuthun) hefyd, sydd wedi ei foderneiddio a'i gynnal gan Gyngor Sir Ddinbych.

Frensh Flag; a warm welcome
Bienvenue a Rhuthun