www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny
Holiadur

 

 

Desmond Healy

Geiriau

Adar ein cof ydynt:
adar cof ydyw'r cyfan;
yn llwyd a llawen
amryliw a thrist.

Does dichon eu dal
a'u caethiwo fel parrot
parod
mewn cawell.

Na,
nid erys o'u hôl
ond print eu traed
ar bapur gwyn yr eira.

Gwingant,
ehedant i'w hynt
ar esgyll eu llafariaid
hyd las-nen
ein dychymyg byw.

 

Mot

Beth ddaw o Jim a Nimo,
Ledi a Jiwdi a Jo?
- Cwynant yn unig heno.

Hir y cofir y cyfarth
A'r bywyd ar lawr y buarth,
A brad oer bore o darth.

Codi i'm llaw ei bawen,
Gain waed o liw'r gneuen,
Fy nghi hoff, a llyfu ngên.

Ni ddaw nôl i Rydolau,
- Gwêl ostwng ei hir glustiau,
Y gwaed coch a'r llygaid cau.

 

Yr Awyren Concorde

Ar wych gae mae alarch gwyn - a gloywaf
Haul haf ar ei blufyn.
Daear las yw dðr ei lyn,
Hardd awel ei wyrdd ewyn.

Gwêl ei rwysg! Gwylia'r esgyn - ac osgo
Ei esgyll mawr, claerwyn!
Diwyro'r cawr aderyn
Fry i'w daith hyfryd ei hun.

 

Y Teulu

Hen bensiynwr o epa hyll
Yn crafu'i war,
A'i wraig, gr'adures, yn llygadu'n llesg
Drwy ganghennau'r bar.

Tri bywiogyn, eu hepil llwyd,
Yn chwilio am chwain,
Gan dasgu yn sydyn fel gwreichion llosg
Ar hyd y gwifrau main.

Pum dieithryn mewn cartref caets
Yn gwylio sð
Aflafar hwythau'r dynionach hurt
Sy'n eu gwylio nhw.

 

Ffrind a Gelyn

Oes gen ti elyn,
Mair Elin, Mair Elin,
Rhyw gyfaill o elyn, rhyw elyn o ffrind,
A ranno ar unwaith 
Bob dim â'i gydymaith
Yn fwyd ac anfadwaith ble bynnag mae'n mynd?

"O, Oes!" medd Mair Elin
Yn frwd anghyffredin;
"Rwy'n nabod fy ngelyn, fy ffrind gorau yw:
Ni allaf ei dwyllo
Ei wadu na'i wawdio
- Wedi'r cyfan rhaid cofio, fi fy hunan yw!"

 

Yr Eneth Ddall

Beth ydyw gweld i mi?
Byseddu gwallt fy mam
A'i deimlo'n donnau môr
Yn cyrlio'n dynn am graig fy mys.

Beth ydyw gweld i mi?
Cael blasu siap yr afal
Llyfn mewn llaw...
A gwasgu'r sudd yn rhaeadr dros ddant
Nes cyrraedd cerrig mân ei ganol.

Beth ydyw gweld i mi?
Troi wyneb i gusanu'r haul
A nabod, mewn cynesrwydd du
Anwyldeb haf ei anadl.

Beth ydyw gweld i mi?
Cael ffroeni yn ei bryd
Y rhosyn mawr
A rhwyfo llyn ei sawr a'i si
Mewn hiraeth mwyn:
Hyd nes y daw cacynen o fad-modur heibio
A tharfu'r cwbwl!

Beth ydyw gweld i mi?
Bronfraith o wanwyn yn yr ynn
Fin hwyr
A'i nodau clir
Yn flagur ac yn flodau i gyd,
Yn ardd o gân
Y crwydraf hyd ei llwybrau
Draw at glwyd fy nghwsg.